Mae 17 o bobol wedi marw, ac 20 wedi eu hanafu, yn dilyn ffrwydrad mewn academi plismyn ym mhrifddinas Somalia.

Grŵp brawychol Al-Shabab sydd wedi hawlio’r ymosodiad ym Mogadishu – grŵp sydd â chysylltiadau ag Al-Qaida.

Yn ôl awdurdodau, hunanfomiwr mewn gwisg heddlu wnaeth achosi’r ffrwydrad.

Roedd y brawychwr wedi ymuno â grŵp o swyddogion mewn ymarferiad ar gyfer parêd, cyn ffrwydro dyfais oedd wedi’i strapio i’w gorff.

Al-Shabab yw un o grwpiau eithafol peryclaf Affrica ac mae’n ymddangos mai nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiad arall yn Mogadishu ym mis Hydref a laddodd 512 o bobol.