Dydi’r Unol Daleithiau ddim yn ffit i ymddwyn fel broceriaid heddwch yn y Dwyrain Canol, wedi i Donald Trump ddatgan mai Jerwsalem ydi prifddinas Israel.

Dyna farn arlywydd y Palesteiniaid, Mahmoud Abbas, wrth annerch arweinwyr Islamaidd yn Nhwrci heddiw.

Mae wedi galw ar i’r Cenhedloedd Unedig ddewis rhywun arall i wneud y gwaith, gan ddweud nad ydi’r Palesteiniaid ddim yn fodlon derbyn yr Unol Daleithiau – er eu bod nhw’n hollol ymrwymedig i’r trafodaethau heddwch.

Mae Mahmoud Abbas wedi galw datganiad Donald Trump yn “drosedd” ar adeg pan oedd y Palesteiniaid mewn trafodaethau â Washington a allai fod wedi selio “bargen y ganrif”.

“Yn lle hynny, fe gawson ni swadan y ganrif,” meddai Mahmoud Abbas.

“Mae’r Unol Daleithiau wedi dewis colli ei statws fel brocer heddwch. Wnawn ni ddim derbyn fod gan America ran yn y trafodaethau o hyn allan.”