Mae’r para-athletwr Oscar Pistorius wedi cael ei niweidio yn dilyn ffrwgwd yn y carchar.

Mae lle i gredu ei fod e a charcharor arall wedi ffraeo tros ddefnyddio ffôn.

Mae’r cyn-bencampwr Paralympaidd ac athletwr Olympaidd yn treulio 13 o flynyddoedd dan glo am lofruddio’i gariad, Reeva Steenkamp yn eu cartref yn Ne Affrica.

Fe wnaeth ei saethu trwy ddrws yr ystafell ymolchi ar Ddydd San Ffolant 2013, gan honni ei fod o’r farn fod lleidr yn y tŷ yn y nos.