Mae cyrchoedd awyr dan arweiniad Sawdi Arabia wedi lladd beth bynnag 15 o bobol ac wedi anafu mwy na 30 arall ym mhrifddinas Yemen.

Mae swydogion ar ochr y gwrthryfelwyr yn dweud i’r ymosodiadau nos Fawrth a bore Mercher dargedu gwersyll yn Sanna.

Yn ol adroddiadau, mae nifer o adeiladau wedi’u difrodi, ac mae dwsinau o bobol yn dal yn sownd o dan y rwbel.

Mae Sawdi Arabia a’i chynghreiriaid wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr Shïaidd yr Houthis ers 2015.

Mae 10,000 o bobol wedi’u lladd yn rhyfel cartref Yemen, ac mae tair miliwn o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi, wrth i’r wlad brofi newyn mawr.