Mae llywodraeth Bangladesh wedi beirniadu ymosodiad ar system drenau tanddaearol Efrog Newydd, wrth iddi ddod i’r amlwg bod y dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad yn fewnfudwr o’r wlad.

Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth eu bod yn “condemnio brawychiaeth ac eithafiaeth dreisgar ym mhob ffurf lle bynnag maen nhw’n digwydd yn y byd, gan gynnwys y digwyddiad yn Efrog Newydd fore dydd Llun.”

Mae’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau wedi adnabod y dyn fel Akayed Ullah, 27, a oedd wedi cyrraedd America o Fangladesh yn 2011. Roedd wedi mynd i America ar ôl cael fisa ar y sail bod ganddo gysylltiad teuluol gyda dinesydd yr Unol Daleithiau.

Mae Akayed Ullah wedi’i gyhuddo o rwymo dyfais i’w gorff a’i ffrwydro fore dydd Llun mewn gorsaf danddaearol yn Times Square.

Akayed Ullah oedd yr unig un i gael ei anafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad. Cafodd tri o bobl eraill fan anafiadau.

Yn ôl yr awdurdodau roedd wedi bod yn edrych ar bropaganda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ar-lein ond mae’n debyg nad oedd wedi cael cysylltiad uniongyrchol gyda’r grŵp eithafol.

Mae teulu Akayed Ullah yn yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod wedi torri eu calonnau ac wedi’u tristau oherwydd y dioddefaint a achoswyd gan yr ymosodiad.