Mae dyn wedi cael arestio yn Efrog Newydd yn dilyn ffrwydrad bom mewn gorsaf drên danddaearol.

Roedd y bom wedi’i glymu i’w gorff ac mi ffrwydrodd am tua 7.30yb ddydd Llun (Rhagfyr 11) mewn ardal ger Times Square.

Does neb wedi eu hanafu gan eithrio’r dyn sydd wedi cael ei arestio – dydy’r anafiadau ddim yn peryglu ei fywyd, yn ôl yr awdurdodau.

Cafodd teithwyr eu symud o orsafoedd tanddaearol yn dilyn y ffrwydrad.

“Roedd e’n swnio fel ffrwydrad, ac yna fe ddechreuodd pawb redeg,” meddai dynes oedd yn yr ardal ar y pryd, Andre Rodriguez, 62, wrth The New York Times.