Mae pleidiau cenedlaetholgar wedi llwyddo i ennill mwyafrif o seddi yn etholiad Corsica, gan ddod â theyrnasiad y pleidiau traddodiadol i ben.

Bellach mae’r glymblaid genedlaetholgar yn meddu ar 41 o’r 63 sedd yng Nghynulliad Corsica.

Llwyddodd En Marche! sef plaid Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ag ennill dim ond chwe sedd yn ystod etholiad rhanbarthol ddydd Sul (Rhagfyr 10).

Mae Corsica wedi bod dan reolaeth Ffrainc ers 1768, ac er nad yw cenedlaetholwyr yr ynys wedi galw am annibyniaeth lawn, mae’r galw am ddatganoli pŵer yn glir.

Mae cydnabod Corseg yn iaith swyddogol, a diogelu hawl pobol leol i brynu tai ar yr ynys, ymysg y materion sydd o bwys i’r cenedlaetholwyr.

Daeth y bleidlais ychydig ddyddiau’n unig  wedi i ymgyrchwyr Basg Ffrengig gynnal protest ym Mharis yn erbyn triniaeth grwpiau cenedlaetholgar.