Mae rheolwr tîm pêl-droed Man City, Pep Guardiola wedi amddiffyn ei benderfyniad i wisgo rhuban melyn i ddangos ei gefnogaeth i wleidyddion sydd wedi’u carcharu yng Nghatalwnia.

Mae’r rhuban wedi’i wahardd yng Nghatalwnia, mamwlad Guardiola ond fe fu’n ei wisgo ar yr ystlys yng ngemau Uwch Gynghrair Lloegr ers mis.

Ychydig iawn o sylw gafodd ei dynnu at y weithred cyn y gêm ddarbi rhwng Man City a Man U dros y penwythnos.

Ond mae rheolwr Man U, Jose Mourinho wedi cwestiynu’r arwydd, gan dynnu sylw at bolisi’r awdurdodau pêl-droed o wahardd symbolau gwleidyddol.

Ar gyfer y chwaraewyr yn unig y mae gwaharddiad Fifa, ond mae Mourinho wedi awgrymu y byddai yntau wedi cael ei gosbi pe bai wedi gwneud rhywbeth tebyg.

‘Annheg’

Ond yn ôl Pep Guardiola, mae e’n dangos pa mor “annheg” yw carcharu gwleidyddion am ddangos eu cefnogaeth i Gatalwnia annibynnol.

“I wrthryfela ynghylch rhywbeth fel hynny, rhaid i chi fod yn gadarn yn y carchar. Ac maen nhw’n dal i fod yno.

“Felly tan eu bod nhw allan, bydd [y rhuban] yn aros gyda fi.”

Cafodd Pep Guardiola ei eni yng Nghatalwnia ac mae’n un o brif bersonoliaethau chwaraeon ei genedl.

Dyw ei safiad ddim wedi torri unrhyw reolau hyd yn hyn, er bod gwaharddiad yn ei le gan UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr yn gwahardd negeseuon sarhaus rhag cael eu harddangos.

Ond yn ôl y rheolwr, dyw e ddim yn poeni am gael ei wahardd.

“Os ydyn nhw am fy ngwahardd i – UEFA, yr Uwch Gynghrair, FIFA – popeth yn iawn.”