Mae tri o bobol sydd wedi’u hamau o daflu bomiau tân at adeilad synagog yn Gothenburg yn Sweden wedi cael eu harestio.

Dyma’r ail ymosodiad o’i fath o fewn dau ddiwrnod yn y wlad, ac fe ddigwyddodd yn ystod digwyddiad i bobol ifanc.

Cafodd tua dwsin o lanciau eu gweld yn taflu’r bomiau i mewn i’r gerddi ger yr adeilad.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Fe fu protestiadau drwy Sweden nos Wener yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ei fod yn cydnabod Jerwsalem yn brifddinas Israel.

Mae gwleidyddion blaenllaw yn Sweden wedi beirniadu’r ymosod diweddaraf.