Mae Irac wedi cyhoeddi bod ei rhyfel yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd ar ben, a hynny wedi mwy na thair blynedd o ymladd sydd wedi gyrru brawychwyr allan o bob un o’r ardaloedd yr oedden nhw wedi’u meddiannu.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y prif weinidog Haider al-Abadi wrth iddo gadarnhau mai lluoedd Irac bellach sydd yn rheoli pob rhan o’r ffin â Syria.
Mae lluoedd Irac bellach wedi dod â’i hymladd yn erbyn IS i ben, meddai, a bod “holl diroedd Irac bellach yn rhydd o afael brawychol Daesh (neu IS)”.
Ar un adeg, roedd y Wladwriaeth Islamaidd wedi meddiannu bron i draean o dir Irac, yn cynnwys yr ail ddinas, Mosul.