Mae saith o blant o Syria wedi’u lladd gan dân mewn gwersyll ffoaduriaid yn Libanus.

Fe ddaeth datganiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dweud fod y tân ym mhentref Ghaze wedi bod yn “sioc” i’r awdurdodau, a’u bod nhw’n “estyn llaw cydymdeimlad i’r teuluoedd ac i bawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad”.

Mae mwy na miliwn o ffoaduriaid o Syria yn byw yn Libanus.

Mae’r gwaith o ddod o hyd i gartrefi newydd i’r teuluoedd sydd wedi colli’u cartrefi yn y tân, yn mynd rhagddo.

Mae bwyd, blancedi, dillad gaeaf a dwr yn cael eu rhannu o neuadd yn Ghaze.