Mae ymgyrchwyr yn obeithiol y bydd ymweliad yr Ysgrifennydd Tramor ag Iran yn helpu i ryddhau dynes o wledydd Prydain sydd yn y carchar yno.

Fe fydd yn gyfle i’r Ysgrifennydd, Boris Johnson, ddadwneud effeithiau un o’i gamgymeriadau mwya’ wrth iddo ddadlau achos Nazanin Zaghari-Ratcliffe.

Mae’r weithwraig elusen yn wynebu achos llys arall ddydd Sul ac mae disgwyl i Boris Johnson ymweld â’r wlad dros y Sul.

Wrth geisio gwella’r berthynas gyda Tehran, fe fydd hefyd yn codi achos y wraig sydd â dinasyddiaeth dwbl yn y Deyrnas Unedig ac Iran – er nad yw awdurdodau Iran yn cydnabod hynny.

‘Gwneud lles’

Yn ôl gŵr Nazanin Zaghari-Ratcliffe, fe ddylai’r ymweliad wneud lles ac mae elusen Amnest Rhyngwladol yn dweud y gallai fod yn “olau ar ben draw’r twnnel”.

Ond fe allai’r wraig wynebu rhagor o garchar ar ôl i Boris Johnson ddweud yn anghywir yn y Senedd ei bod hi’n hyfforddi newyddiadurwyr – gan atgyfnerthu amheuon Iran.

Yn ôl Richar Ratcliffe, roedd hi ar ymweliad personol ag Iran er mwyn dangos eu merch fach, Gabriella,  i’w theulu yno.