Mae’r ymgyrchu wedi dechrau yn yr etholiadau rhanbarthol yng Nghatalwnia wrth i lywodraeth Sbaen geisio atal yr ymgyrch am annibyniaeth.

Mae rhai o’r ymgeiswyr un ai yn y carchar neu wedi gadael y wlad er mwyn osgoi cael eu harestio.

Mae disgwyl i’r etholiadau gael eu cynnal ar 21 Rhagfyr ac mae’n ymddangos y bydd yn frwydr glos rhwng y rhai sy’n cefnogi annibyniaeth a’r etholwyr hynny sydd eisiau aros yn rhan o Sbaen.

Fe fydd pleidleiswyr yn dewis cynrychiolwyr rhanbarthol ac uwch swyddogion  y llywodraeth i gymryd lle’r rhai hynny gafodd eu diswyddo gan lywodraeth Sbaen ym mis Hydref.

Oriau’n unig cyn i’r pleidiau gynnal ralïau i lansio eu hymgyrchoedd, fe ddyfarnodd barnwr yn y Goruchaf Lys ym Madrid y dylai pedwar aelod blaenllaw, sydd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch dros annibyniaeth, aros yn y carchar ar gyhuddiadau o wrthryfela.

Maen nhw’n cynnwys cyn-Ddirprwy Arlywydd Catalwnia, Oriol Junqueras.

Yn y cyfamser mae arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, a rhai o arweinwyr eraill yn parhau i gael lloches yng Ngwlad Belg, ond maen nhw’n disgwyl clywed a fyddan nhw’n cael eu hestraddodi i Sbaen ar 14 Rhagfyr, wythnos cyn yr etholiadau.