Mae dau gwmni awyr wedi cyhoeddi eu bod yn ail-gynnal eu teithiau awyr i Bali yr wythnos hon wrth i ludw llosgfynydd Agung wasgaru’n stêm.

 

Mae cwmni awyr Jetstar a Virgin Australia wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ailddechrau hedfan wedi i Asiantaeth Lleddfu Argyfyngau Indonesia nodi fod y rhan fwyaf o Bali yn ddiogel i dwristiaid, ond bod risg llosgfynydd Agung yn parhau’n uchel.

 

Mae pobol yn cael eu gwahardd o fynd yn nes na chwe milltir at y llosgfynydd, ac mae mwy na 55,000 o bobol yn byw mewn llochesi yno.

 

Mae degau o filoedd o bobol wedi’u heffeithio ers i faes awyr rhyngwladol Bali gau’r wythnos ddiwethaf am dridiau oherwydd y lludw yn yr aer.

 

Bu farw mwy na 1,100 o bobol y tro diwethaf i’r llosgfynydd ffrwydro yn 1963, ac yn ôl daearegwr o Brifysgol Newcastle yn Awstralia mae’r siawns am ffrwydrad y tro hwn yn “parhau’n uchel” ond “mae’n llai nag yr oedd rhai wythnosau’n ôl.”