Mae Michael Flynn, cyn-ymgynghorydd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump, wedi cyfaddef iddo ddweud celwydd wrth yr FBI am gyfathrebu â Rwsia.

Fe blediodd yn euog i un cyhuddiad o roi datganiad ffug i ymchwiliad, a fe yw’r swyddog cyntaf i gael ei gyhuddo fel rhan o’r ymchwiliad gan Robert Mueller.

Mae erlynwyr yn ceisio darganfod a oedd gweinyddiaeth Donald Trump a’r Rwsiaid wedi cydweithio yn ystod ei ymgyrch arlywyddol y llynedd er mwyn trechu Hillary Clinton.

Mae papurau sydd wedi’u cyflwyno fel rhan o’r achos yn dangos bod Donald Trump yn ymwybodol o gysylltiad Michael Flynn â Rwsia wythnosau cyn iddo gael ei urddo’n Arlywydd.

 

 

Mae lle i gredu mai dau o’r rhai a fu’n cyfathrebu oedd Jared Kushner, ei fab-yng-nghyfraith, a chyn-ddirprwy ymgynghorydd diogelwch y wlad, KT McFarland.

Cyfrifoldeb

Mewn gwrandawiad, derbyniodd Michael Flynn gyfrifoldeb am yr hyn yr oedd e wedi’i wneud, ond fe ddywedodd fod rhai cyhuddiadau ffug yn ei erbyn hefyd.

Dywedodd ei fod yn barod i gydweithio â’r ymchwiliad “er lles” ei deulu a’r wlad.

Fe allai wynebu hyd at chwe mis o garchar am ei ran yn yr helynt.

 

 

 

Dywedodd llefarydd ar ran Donald Trump nad yw cyfaddefiad Michael Flynn yn golygu bod yr Arlywydd yntau wedi gwneud unrhyw beth o’i le.