Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw am ganslo ymweliad Donald Trump â’r Deyrnas Unedig ar ôl iddo rannu fideos ymfflamychol y grŵp hiliol, Britain First ar Twitter <https://golwg360.cymru/newyddion/rhyngwladol/506853-twitter-neges-hallt-donald-trump-thersa>.

Ar lawr Tŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Stephen Doughty, AS Llafur sy’n cynrychioli De Caerdydd a Phenarth, holi cwestiwn brys i’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, ar y mater.

Rhannodd Donald Trump dri fideo o gyfrif dirprwy arweinydd Britain First, Jayda Fransen, a fydd yn ymddangos gerbron llys ymhen wythnosau, wedi’i chyhuddo o aflonyddu crefyddol difrifol.

“Hiliol, di-glem a difeddwl”

“Dyma Arlywydd yr Unol Daleithiau yn rhannu cynnwys ymfflamychol a rhanedig i filiynau, sy’n codi casineb, fel mae’r Ysgrifennydd Cartref yn ei ddweud, gan droseddwr sy’n wynebu cyhuddiadau pellach,” meddai Stephen Doughty.

“Wrth ei rannu, mae e naill ai yn hiliol, yn ddi-glem neu’n ddifeddwl – neu mae e’n tri o’r pethau hynny…

“Mae’r digwyddiadau rhyfeddol rydym wedi’u gweld yn sicr yn amlinellu pam bod Aelodau ledled y Tŷ hwn yn iawn i wneud y galwad am yr Arlywydd i beidio dod yma a pham na ddylai cynnig annhymig y Prif Weinidog ddigwydd.”

Wrth ymateb i drydar Donald Trump, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth golwg360 fod angen bod yn “critical friend” i’r Unol Daleithiau.