Mae perthnasau wedi ymateb gyda dicter a thristwch wrth i Lynges yr Ariannin ddweud eu bod yn rhoi’r gorau i chwilio am  long danfor a ddiflannodd ychydig tros bythefnos yn ôl.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Llynges nad oedd gobaith o gael neb o’r 44 yn y criw yn fyw – fe gafodd y llong ei cholli ar 15 Tachwedd a dim ond gwerth deng niwrnod o ocsigen oedd ynddi.

Ond mae perthnasau wedi beirniadu’r penderfyniad ac wedi condemnio’r Llynges am oedran y llong, yr ARA San Juan (S-42) a oedd wedi ei chomisiynu yn yr 1980au.

Roedd capten y llong danfor wedi rhoi gwybod bod problem gyda batris ond eu bod wedi llwyddo i drin hynny ond mae’n ymddangos bod ffrwydrad wedi ei glywed yn y rhan hwnnw o’r môr tua’r un pryd.

Yn ôl y Llynges, fe allai’r broblem fatris fod wedi achosi i hydrogen grynhoi gan achosi ffrwydrad.