Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi ymateb i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar Twitter, wedi iddi ei feirniadu am rannu fideos ymfflamychol am Fwslemiaid ar y wefan gymdeithasol.

“Theresa May, paid â chanolbwyntio arna’ i,” meddai Donald Trump mewn neges ar Twitter. “Canolbwyntia ar y frawychiaeth Islamaidd radical a dinistriol sydd yn digwydd yn y Deyrnas Unedig.”

Roedd yr Arlywydd wedi rhannu tair fideo wnaeth gael eu postio’n wreiddiol gan un o aelodau blaenaf y grŵp asgell dde Prydeinig, Britain First.

Disgrifiad un o’r fideos yw “Mwslim yn curo bachgen anabl o’r Iseldiroedd”, ond does dim tystiolaeth mai Mwslim yw’r dyn – yn ôl awdurdodau’r Iseldiroedd mae’r dyn yn hanu o’u gwlad nhw.

Mae Theresa May wedi dweud “nad yw’n iawn” bod yr Arlywydd wedi rhannu’r fideos, tra bod yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Nadhim Zahawi, wedi lleisio “anfodlonrwydd cryf”.