Mae pedwar o bobol wedi marw wedi i gar smyglwr oedd yn cario wyth o ffoaduriaid sgrialu oddi ar glogwyn 90 troedfedd yng ngogledd Groeg.
Roedd y cerbyd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu ar y pryd.
Mae llefarydd ar ran ysbyty yn dweud fod pedwar ffoadur arall, ynghyd â gyrrwr o Bacistan, wedi’u hanafu yn y digwyddiad yn hwyr ddydd Mawrth (Tachwedd 28).
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger tref Kavala, i’r dwyrain o Thessaloniki. Yn ol yr heddlu, roedd y gyrrwr wedi anwybyddu gorchymyn i stopio ar y briffordd, ac wedi troi oddi ar y ffordd honno cyn colli rheolaeth o’r car.
Roedd rhai o’r ffoaduriaid wedi’u gwasgu i fwt y car. Roedden nhw wedi teithio i gyfeiriad y gorllewin, ar ol croesi’r ffin â Thwrci yn anghyfreithlon.