Mae senedd un o daleithiau Awstralia wedi pleidleisio o blaid gwneud ewthanasia yn gyfreithlon, 20 mlynedd wedi i’r wlad ddiddymu’r ddeddf oedd yn caniatau helpu pobol derfynol wael i farw.

Mae’r bleidlais yn senedd Victoria yn golygu y bydd gan feddygon yr hawl o ganol 2019 i gynorthwyo unigolyn sydd am roi diwedd ar ei fywyd.

Mae arweinydd y dalaith, Daniel Andrews, yn dweud fod y penderfyniad yn dangos trugaredd.

 

Fe wrthododd talaith mwya’ poblog Awstralia, New South Wales, ddeddf debyg bythefnos yn ol, a hynny o un bleidlais, 20 i 19.

Talaith y Northern Territory yn 1995 oedd yr ardal gyntaf yn y byd i gyfreithloni hunanladdiad gyda chymorth meddyg ar gyfer cleifion nad oedd gwella iddyn nhw.

Does gan Senedd Awstralia gyfan ddim yr hawl i ddiddymu deddfau fel yr un sydd newydd ei phasio yn Fictoria.