Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi y bydd cyfarfod brys yn cael ei gynnal yn sgil lansiad taflegryn diweddaraf Gogledd Corea.

Yn ôl llefarydd ar ran y Pentagon, cafodd y taflegryn ei danio o Sain Ni yng Ngogledd Corea, ac mi deithiodd 620 milltir cyn glanio ym Môr Japan.

Pe bai’r taflegryn wedi cael ei danio ar yr ongl arferol, mae’n bosib y gallai wedi teithio 8,100 milltir – pellter pellaf unrhyw un o daflegrau’r wlad hyd yma.

Dyma’r taflegryn cyntaf i gael ei danio gan Ogledd Corea mewn deg wythnos, ac mae’r lansiad yn debygol o chwalu unrhyw obeithion am newid trywydd gan y wlad.

Yn ogystal â hynny, mae’n debygol bod Pyongyang cam yn nes at fedru taro’r Unol Daleithiau ag arfau niwclear.