Mae chwe cyn-filwr o Brydain wedi’u rhyddhau o garchar yn yr India bedair blynedd ar ôl iddyn nhw gael eu cyhuddo am droseddau’n ymwneud ag arfau.

Mae’r dynion yn cael eu hadnabod fel y ‘Chennai Six’ ac fe enillon nhw apêl yn erbyn eu dedfrydau ddydd Llun.

Cafodd y chwech eu carcharu am smyglo arfau ym mis Hydref 2013 wrth weithio fel gwarchodwyr ar long i ymladd yn erbyn môr-ladrata yng Nghefnfor yr India.

Mae’r milwyr yn cynnwys Billy Irving o’r Alban, Nick Dunn, John Armstrong, Nicholas Simpson, Ray Rindall a Paul Towers o ogledd Lloegr.

Maen nhw bellach yn cael lloches yn y llysgenhadaeth Brydeinig.