Mae tri o bobol wedi marw mewn ffrwydrad yn ninas Jaffa yn Israel.
Roedd adeilad wedi dymchwel yn sgil y ffrwydrad.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod achos y ffrwydrad, meddai’r heddlu.
Daeth timau achub o hyd i dri o bobol o dan y rwbel a chafodd pump o bobl eraill eu cludo i’r ysbyty.
Mae adroddiadau mai nam technegol a nwy yn gollwng sydd ar fai.