Bydd y Pab Francis yn dechrau ar ei daith o Myanmar heddiw (Tachwedd 27) – gwlad sydd wedi ei chyhuddo o erlid Mwslimiaid Rohingya.

Hyd yma mae dros 620,000 o bobol Rohingya wedi ffoi dros y ffin i Fangladesh, yn dilyn ymgyrch filwrol gan luoedd Myanmar (yr hen Burma).

Un cwestiwn sy’n codi, a fydd y Pab yn defnyddio’r term ‘Rohingya’ ai peidio tra ar ei ymweliad.

Mae’r term yn debygol o gorddi, gan fod mwyafrif Bwdhaidd Myanmar yn credu mai grŵp estron yw’r Rohingya.

Yn y gorffennol mae’r Pab Francis wedi cyfleu cydymdeimlad gyda’n “brodyr a chwiorydd Rohingya” ac mae’r Fatican wedi awgrymu na fydd y Pab yn osgoi’r gair.