Mae degau ar filoedd o deithwyr yn sownd yn Bali ar ôl i faes awyr rhyngwladol yr ynys gael ei gau oherwydd y bygythiad y gallai llosgfynydd ffrwydro.
Cafodd y rhybudd ar gyfer Mynydd Agung ei godi i’w lefel uchaf ddydd Llun gan yr awdurdodau yn Indonesia, sy’n dweud y bydd y maes awyr ynghau am 24 awr.
Mae lludw wedi bod yn codi o’r llosgfynydd ers y penwythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr bod 445 o hediadau wedi cael eu canslo sy’n effeithio tua 59,000 o deithwyr.
Fe fydd y maes awyr ynghau tan fore dydd Mawrth ond dywed swyddogion y byddan nhw’n adolygu’r sefyllfa bob chwe awr.
Yn ôl swyddogion yn Indonesia mae angen i hyd at 100,000 o drigolion mewn 22 o bentrefi cyfagos adael eu cartrefi ond hyd yma, llai na hanner sydd wedi gwneud hynny.
Bali yw un o brif gyrchfannau gwyliau Indonesia gyda mwy na phum miliwn yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn.