Mae dau o bobol wedi marw a dwsinau o bobol wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydrad yn Tsieina.

Cafodd adeiladau eu chwalu a cherbydau eu dinistrio yn y digwyddiad yn ninas Ningbo.

Mae lle i gredu bod y ffrwydrad wedi digwydd mewn ffatri ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

 

Mae o leiaf 30 o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.