Mae Carles Puigdemont, sy’n gobeithio cael ei ailethol yn arlywydd Catalwnia yn yr etholiad yno y mis nesaf, wedi lansio ei ymgyrch o’i alltudiaeth yng ngwlad Belg.

Roedd tua 90 o ymgeiswyr ei blaid wedi teithio yno o Catalwnia ar gyfer lansio ‘Gyda’n gilydd dros Catalwnia’ yn ninas Bruges.

Roedd ef a phedwar aelod arall o’i lywodraeth wedi ffoi i wlad Belg ar ôl i lywodraeth Sbaen eu diswyddo yn sgil y datganiad annibyniaeth gan senedd Catalwnia ar 27 Hydref.

Mae awdurdodau Sbaen wedi gorchymyn cynnal etholiad yn Catalwnia ar 21 Rhagfyr.

Gall y broses o estaddodi Carles Puigdemont gymryd wythnosau, sy’n golygu y gall redeg ei ymgyrch o wlad dramor, ond mae’n wynebu cael ei arestio os bydd yn dychwelyd i Sbaen.