Mae mwy na 200 o bobol wedi’u lladd a 130 wedi’u hanafu mewn ymosodiad ar fosg yn Yr Aifft.

Cafodd yr ymosodiad ei gynnal mewn mosg Sufi ym Mhenrhyn Sinai yn nhref Bir al-Abd yn ystod gweddïau heddiw.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yma, ond mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi targedu Sufis yn y gorffennol.

Mae Theresa May, Prif Weinidog Prydain, wedi disgrifio’r ymosodiad yn un “ffiaidd” ac yn “weithred creulon a llwfr”.