Mae’r awdurdodau yn Papwa Gini Newydd wedi symud dwsinau o geiswyr lloches o wersyll mewnfudwyr, ac wedi cynyddu’r pwysau ar fwy na 300 o bobol eraill i adael y safle ar Ynys Manus.

Fe aeth 50 o swyddogion yr heddlu, ynghyd â swyddogion mewnfudo, i mewn ben bore heddiw, gan geisio “symud yn heddychlon” hanner cant o geiswyr lloches o blith y 378 o ddynion oedd yn byw yno.

Mae rhai ffoaduriaid yn dweud fod eu pebyll a’u cysgodfeydd, eu gwelyau a’u holl eiddo, wedi cael eu dinistrio, a bod dynion wedi’u gorfodi o’r gwersyll ger tref Lorengau.

Mae’r awdurdodau, ar y llaw arall, yn dweud i’r dynion “adael o’u gwirfodd”.