Mae’r glymblaid filwrol sy’n cael ei harwain gan Saudi Arabia wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ailagor y cysylltiadau â Yemen er mwyn cludo cymorth dyngarol i’r wlad.

Mi fydd y maes awyr yn Sanaa, a’r porthladd yn Hodeida yn ailagor heddiw (dydd Iau).

Mae’r glymblaid sy’n ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr Shïaidd yn Yemen wedi cau’r holl borthladdoedd a meysydd awyr yn y wlad ers mwy na phythefnos o ganlyniad i ymosodiad taflegryn gan wrthryfelwyr Shïaidd wnaeth dargedu prifddinas Sawdi Arabia, Riyadh.

Mae’r glymblaid wedi cytuno ar y cyd â’r Cenhedloedd Unedig a grwpiau cymorth rhyngwladol i ailagor y cysylltiadau i gludo cymorth i un o’r gwledydd Arabaidd tlotaf.