Mae’r Unol Daleithiau wedi beirniadu’r trais yn erbyn Mwslimiaid Rohingya yn Burma gan ddweud ei fod yn gyfystyr â “glanhau ethnig.”

Daw hyn wedi i Rex Tillerson, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, ymweld â Burma yr wythnos diwethaf gan gwrdd â’r arweinydd Aung San Suu Kyi a’r pennaeth milwrol Min Aung Hlaing.

“Ni all yr un cythrudd gyfiawnhau’r erchyllterau dychrynllyd,” meddai gan Rex Tillerson gan ddweud y dylai’r rheiny sy’n gyfrifol “gael eu dal i gyfrif”.

Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dod o dan bwysau i alw’r trais yn “lanhau ethnig” gyda disgwyl i’r datganiad roi pwysau newydd ar yr Unol Daleithiau i osod sancsiynau newydd ar Burma.

Hyd yn hyn mae mwy na 600,000 o bobol wedi ffoi o dalaith Rakhine yn Burma i geisio am loches yn Bangladesh.