Mae disgwyl i Arlywydd newydd Zimbabwe, Emmerson Mnangagwa dyngu llw yn ddiweddarach yn dilyn ymddiswyddiad Robert Mugabe.
Fe fu dathlu mawr yn dilyn y cyhoeddiad bod cyfnod yr Arlywydd wedi dod i ben yn dilyn cryn bwysau arno i ymddiswyddo neu wynebu achos llys.
Roedd dan y lach am resymau economaidd ac am dorri cyfreithiau hawliau dynol.
Ond dydy llwybr ei ddirprwy i’r arweinyddiaeth ddim wedi bod yn un syml, wrth i wraig Robert Mugabe, Grace, geisio olynu ei gŵr.
Fe fu’n rhaid i Emmerson Mnangagwa ffoi, gan honni bod ei fywyd mewn perygl ac fe gamodd y fyddin i mewn er mwyn ceisio rhoi terfyn ar deyrnasiad yr Arlywydd 93 oed o ganlyniad.
Ymddiswyddiad
Yn ei lythyr yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Robert Mugabe, arweinydd hyna’r byd, y dylai’r arweinydd newydd dyngu llw heddiw.
Ac mae trigolion Zimbabwe wedi dihuno heb fod Robert Mugabe mewn grym am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd.
Yr arweinydd newydd
Mae cryn ddathlu wedi bod wrth i’r wlad ymgyfarwyddo â’i harweinydd newydd.
Yn gyn-weinidog cyfiawnder ac amddiffyn, roedd Emmerson Mnangagwa yn ddirprwy i Robert Mugabe am rai blynyddoedd, ac yn cael ei adnabod wrth ei ffugenw ‘Crocodeil’.
Mae lle i gredu ei fod e’n flaenllaw wrth ladd miloedd o bobol yn ystod anghydfod gwleidyddol yn y 1980au.
Ond mae wedi galw ar drigolion Zimbabwe i ddod ynghyd, gan gyhuddo Robert Mugabe o “ddyheu am farw yn ei swydd, beth bynnag am y gost i’r genedl”.