Mae disgwyl i brif blaid Zimbabwe ddechrau camau i uchelgyhuddo’r Arlywydd Robert Mugabe.
Dywedodd swyddog ar ran y blaid, Lovemore Matuke, bod gweinidogion y llywodraeth wedi cael cyfarwyddyd i foicotio cyfarfod o’r cabinet sydd wedi cael ei alw gan yr arlywydd.
Yn hytrach fe fyddan nhw’n cyfarfod ym mhencadlys y blaid i ddechrau’r gwaith o uchelgyhuddo Robert Mugabe.
Mae’r Senedd yn ailymgynnull heddiw (dydd Mawrth).
Yn ôl byddin y wlad, mae disgwyl i’r is-lywydd, Emmerson Mnangagwa, a gafodd ei ddiswyddo gan Robert Mugabe yn ddiweddar, ddychwelyd i Zimbabwe “yn fuan” a’i fod wedi bod mewn cysylltiad â’r arlywydd.
Roedd Robert Mugabe wedi gwrthod ildio’r awenau er i’w blaid alw arno i wneud hynny erbyn 10yb ddoe.
Mae Emmerson Mnangagwa wedi dweud y dylai ymddiswyddo ar unwaith.