Mae Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe yn wynebu cael ei uchelgyhuddo ar ôl anwybyddu rhybudd i ymddiswyddo.

Aeth e o flaen y camerâu teledu neithiwr heb gyhoeddi ei ymddiswyddiad.

Roedd plaid Zanu-PF wedi ei rybuddio bod rhaid iddo ymddiswyddo erbyn canol dydd ar ddydd Llun er mwyn osgoi achos, ac fe ddywedodd prif chwip y blaid, Lovemore Matuke fod ei araith wedi ei “synnu”.

Dim dathliad

Roedd protestwyr oedd yn dymuno gweld Robert Mugabe yn ymddiswyddo wedi ymgasglu yn barod ar gyfer dathliad.

Ond erbyn hyn, mae’n ymddangos ei fod yn barod i herio’i blaid ei hun drwy aros yn ei swydd, ac mae’n disgwyl arwain ei blaid yn ystod eu cynhadledd fis nesaf.

Dalfa

Yn ei araith, siaradodd Robert Mugabe am ei gyfnod yn y ddalfa yn ei gartref, a chael ei symud o’i swydd yn arweinydd ei blaid.

“O heno… mae’r genedl ar bob lefel yn newid ffocws,” meddai.

Dywedodd ei fod yn “deall” rhwystredigaeth y bobol yn sgil “methiannau’r gorffennol”.

Siom

 

Mae trigolion Zimbabwe oedd yn gobeithio ei glywed yn ymddiswyddo wedi mynegu ei siom.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cymdeithas cyn-filwyr y wlad, Victor Matemadanda fod yr arweinydd wedi eu “brawychu”.

“Mae e’n chwarae gemau â phobol Zimbabwe. Mae e’n cytuno i fynd ac yna’n chwarae gemau gyda ni fel hyn ar y funud olaf.”