Mae plaid Zanu-PF wedi rhybuddio Robert Mugabe fod ganddo fe tan ddydd Llun i ymddiswyddo o’i rôl fel Arlywydd Zimbabwe, neu fe allai wynebu cael ei uchelgyhuddo.

Mae e eisoes wedi cael ei ddiswyddo o’i rôl fel arweinydd y blaid, a’i ddirprwy Emmerson Mnangagwa yn cymryd ei le.

Fe fydd y senedd yn cyfarfod ddydd Mawrth, ac fe allen nhw ddechrau camau yn ei erbyn bryd hynny.

Mae pwyllgor canolog y Senedd wedi cymeradwyo’i ddirprwy fel ymgeisydd.

Fe fu Robert Mugabe yn y ddalfa yn ei gartref dros y dyddiau diwethaf.

Mae plaid Zanu-PF wedi cyhuddo’i wraig Grace o “annog casineb, rhaniadau a derbyn swyddi a phwerau y tu allan i’r swyddfa”.