Mae’r canwr ac actor, David Cassidy yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ddechrau’r wythnos yn dioddef o ddiffyg ar ei organau, ac mae angen trawsblaniad arno yn sgil niwed i’r arennau a’r afu.

Mae e hefyd yn dioddef o ddementia.

Mae llefarydd wedi gwadu bod meddygon wedi ei roi e mewn coma.

Fe gafodd e yrfa lwyddiannus fel canwr ac actor, ond mae e wedi bod yn dioddef o salwch ers rhai blynyddoedd, yn rhannol oherwydd problemau’n ymwneud ag alcohol.

Yn 2014, cafodd orchymyn gan farnwr i geisio cymorth am ei broblem ag alcohol ar ôl cael ei ganfod yn euog o yfed a gyrru. Fe wahanodd e a’i drydedd wraig y llynedd.