Mae prif weinidog Libanus, Saad Hariri wedi ymddiswyddo yn sgil tensiynau gwleidyddol yn y wlad.

Mae e ym Mharis ar hyn o bryd, ond yn bwriadu dychwelyd i’r wlad, lle bydd yn egluro’r penderfyniad.

Fe gyhoeddodd ei benderfyniad o Saudi Arabia, ond fe fydd yn dychwelyd i Libanus ar gyfer dathliadau Diwrnod Annibyniaeth.

 

Roedd Arlywydd Libanus, Michel Aoun wedi gwrthod derbyn ei ymddiswyddiad trwy’r cyfryngau, gan gyhuddo darlledwyr yn Saudi Arabia o’i gaethiwo yn erbyn ei ewyllys.