Mae byddin Zimbabwe yn parhau i gynnal trafodaethau gyda’r Arlywydd Robert Mugabe ynglŷn â’i ddyfodol.

Mae’n debyg bod yr arweinydd, sy’n 93 oed, yn gwrthod  ildio’r awenau er gwaetha galwadau cynyddol arno i ymddiswyddo. Mae wedi bod mewn grym ers 1980.

Cafodd Robert Mugabe a’i wraig, Grace, eu harestio ar ôl i fyddin y wlad gipio grym ddydd Mercher (Tachwedd 15).

Yn ôl byddin Zimbabwe maen nhw wedi gwneud “cynnydd sylweddol” yn eu hymdrechion i ddod o hyd i’r “troseddwyr” oedd yn agos at yr arweinydd ac maen nhw wedi arestio rhai ond mae eraill yn dal ar ffo.