Mae ansicrwydd yn parhau yn Zimbabwe wedi i fyddin y wlad cipio grym ddydd Mercher (Tachwedd 15).

Mae’r arlywydd, Robert Mugabe, ynghyd â’i wraig wedi’u harestio, ac mae yna bresenoldeb milwrol ar strydoedd Harare o hyd.

Er bod amheuon bod gan Emmerson Mnangagwa – cyn-ddirprwy Arlywydd Zimbabwe – gysylltiad â’r ‘coup’, dydi’r gwleidydd ddim wedi ymddangos yn gyhoeddus hyd yma.

Mae dros 100 o grwpiau cymdeithas sifil wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn erfyn ar Robert Mugabe i ymddiswyddo, ac wedi galw ar y fyddin i barchu’r cyfansoddiad.

Hefyd mae grwpiau hawliau dynol ac eglwysi wedi galw am drefn a heddwch.