Mae disgwyl i’r wrthblaid yn Cambodia gael ei ddiddymu yn ddiweddarach heddiw (Tachwedd 16), wrth i brif weinidog y wlad ennill fwy a mwy o rym iddo’i hun.

Mae Llywodraeth y wlad wedi cyhuddo Plaid Achubiaeth Genedlaethol Cambodia (CNRP) o gynllwynio yn ei herbyn, ac wedi galw ar y Llys Goruchaf i wahardd y blaid.

Dydi sustem llysoedd Cambodia ddim yn annibynnol, ac felly mae disgwyl i farnwyr ddyfarnu yn erbyn y CNRP.

“Does dim gobaith derbyn dyfarniad gan y Llys Goruchaf sydd yn groes i ddymuniadau’r Prif Weinidog Hun Sen,” meddai, Son Chhay, chwip yr wrthblaid. “Felly, mae fy mhlaid yn debygol o gael ei diddymu.”

Mae Hun Sen wedi llwyddo i ddal gafael ar rym ers 32 o flynyddoedd, ac yn 1997 cafodd wared â’i gyd-Brif Weinidog trwy coup d’etat gwaedlyd.