Mae Tsieina yn dweud ei bod yn anfon cynrychiolydd i Ogledd Corea er mwyn ceisio lleddfu rhywfaint ar y tensiynau rhwng yr Unol Daleithiau a’r wlad.

Fe ddaw’r cyhoeddiad yn dilyn misoedd o ffraeo geiriol rhwng Donald Trump a Kim Jong Un.

Fe fydd cynrychiolydd Tsieina yn teithio i brifddinas Gogledd Corea, Pyongyang, ddydd Gwener – dyma’r tro cyntaf i weinidog o Tsieina ymweld ers mis Hydref 2015.

Mae gan y Blaid Gomiwnyddol yn Tsieina gysylltiadau â Phlaid y Gweithwyr yng Ngogledd Corea, a’r gobaith ydi fod yr agosatrwydd hwnnw yn fwy pwerus nag unrhyw ddiplomyddiaeth wrth geisio perswadio Kim Jong Un i roi’r gorau i’w raglen ddatblygu arfau niwclear.

Tsieina hefyd ydi parter masnachol mwyaf Gogledd Corea, a’i ffynhonnell fwyaf o fwyd a thanwydd.

Tra ar ymweliad â Beijing ddydd Iau diwethaf, fe ofynnodd Donald Trump i Tsieina roi pwysau ar Ogledd Corea i roi’r gorau i’w rhaglen niwclear.