Mae byddin Zimbabwe wedi cipio rheolaeth dros brifddinas y wlad ac wedi cadarnhau bod yr Arlywydd, Robert Mugabe, yn y ddalfa.

Mewn datganiad, mae’r fyddin yn mynnu nad “coup milwrol” sydd ar waith, gan ychwanegu ei bod yn disgwyl i bethau “ddychwelyd i’r drefn arferol” gynted â phosib.

Bellach mae milwyr yn cynnal patrolau ar strydoedd dinas Harare, ac mae’n ymddangos bod y fyddin mewn grym ledled y wlad.

Mae plaid Robert Mugabe, ZANU-PF, wedi ymateb trwy gyhuddo’r fyddin o “fradychu’r genedl”.

Dyma’r tro cyntaf i ni weld hollt yn ymddangos rhwng y ddwy garfan -roedd y berthynas rhwng y fyddin a’r arweinydd yn glos am ddegawdau.