Mae Syria wedi galw ar i’r Unol Daleithiau dynnu ei lluoedd allan o’r wlad nawr bod y frwydr yn erbyn grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) bron ar ben.

Mewn datganiad, mae Gweinyddiaeth Dramor Syria wedi dweud na fydd presenoldeb y lluoedd yn “gorfodi” datrysiad gwleidyddol i’r gwrthdaro.

Daw’r sylwadau ddiwrnod wedi i Jim Mattis, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau ddweud na fydden nhw’n “cerdded i ffwrdd” tan y bydd canlyniadau’r broses wleidyddol, sy’n cael ei chefnogi gan y Cenhedloedd Unedig, yn dwyn ffrwyth.

Mae swyddogion Cwrdaidd yn awyddus i luoedd yr Unol Daleithiau barhau yn y wlad i geisio osgoi “gwrthdaro” gyda lluoedd y llywodraeth, sydd hefyd yn brwydro yn erbyn IS.

Ac yn ôl swyddogion yr Unol Daleithiau, maen nhw’n parhau mewn cyswllt â chymheiriaid yn Rwsia i sicrhau nad oes gwrthdaro rhwng y lluoedd, gyda Rwsia yn gynghreiriad allweddol i’r Arlywydd Bashar Assad.

Ymosodiad Atareb

Mae’n debyg fod nifer y meirw o ganlyniad i gyrchoedd awyr ar farchnad yng ngogledd Syria ddydd Llun wedi codi i 61 o bobol erbyn hyn.

Yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol Prydain yn Syria does dim cadarnhad hyd yn hyn ai llywodraeth Rwsia neu Syria oedd wrth wraidd yr ymosodiad yn Atareb.