Roedd hyd at 750,000 o bobol yn ninas Barcelona brynhawn ddoe i alw am ryddhau deg o arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gatalwnia.

Mae wyth cyn-aelod o Gabinet Catalwnia a dau ymgyrchydd wedi’u carcharu am eu rhan yn y refferendwm fis diwethaf sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan awdurdodau Sbaen.

Ddydd Iau, cafodd chwech aelod seneddol eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad arall yn eu herbyn ddechrau.

Roedd baner yr esteleda i’w gweld ym mhob rhan o’r ddinas yn ystod y brotest, a nifer o’r ymgyrchwyr yn cario arwyddion yn dwyn y neges “Rhyddid i Garcharoroion Gwleidyddol”.

Darllenodd aelodau teuluoedd y carcharorion negeseuon yn eu cefnogi nhw.

Cafodd mwy na 500 o fysus eu trefnu gan Gynulliad Cenedlaethol Catalwnia.

Etholiadau

Yn dilyn y newyddion y bydd etholiad cyffredinol yng Nghatalwnia ar Ragfyr 21, daeth cadarnhad gan Blaid y Chwith Gweriniaethol mai Oriol Junqueras, sydd yn y carchar, fydd eu prif ymgeisydd.

Ac mae disgwyl i’r blaid gynnwys nifer o aelodau eraill sydd wedi’u carcharu ar eu rhestr o ymgeiswyr.

Plaid y Chwith Gweriniaethol yw’r ffefrynnau i ennill, ond does dim disgwyl iddyn nhw ennill mwyafrif.

Mae Carles Puigdemont a phedwar o gyn-weinidogion yn dal i fod yng Ngwlad Belg ar ôl ffoi, ac mae disgwyl i Sbaen barhau i geisio eu hestraddodi.

Dydy’r un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi cydnabod canlyniad y refferendwm yng Nghatalwnia hyd yn hyn, gan rybuddio na fyddai croeso i’r wlad ymuno pe bai’n mynd yn annibynnol.

Rhagolygon

Ar hyn o bryd, mae polau piniwn yn dangos bod barn trigolion Catalwnia wedi’i hollti ar fater annibyniaeth.

Yn ôl ymgyrchwyr o blaid, byddai’r iaith a’r diwylliant, yn ogystal â’r economi, yn fwy llewyrchus o fewn gwlad annibynnol.

Ond dydy busnesau ddim wedi’u darbwyllo ar y cyfan, wrth i fwy na 2,000 o gwmnïau symud eu pencadlys allan o Gatalwnia rhag iddyn nhw gael eu cau allan o’r farchnad Ewropeaidd.