Dywed Donald Trump fod Vladimir Putin wedi gwadu unwaith eto iddo ymyrryd yn etholiad America ar ôl sgwrs rhwng y ddau arweinydd mewn uwch-gynhadledd yn Vietnam.

“Bob tro mae’n fy ngweld, mae’n dweud ‘wnes i ddim gwneud hynny’,” meddai arlywydd America. “A dw i’n ei gredu o ddifri pan mae’n dweud hynny.”

Er na chafodd y ddau gyfarfod ffurfiol, fe gawson nhw sawl sgwrs ac fe wnaethon nhw gytuno ar gamau i’w cymryd i ddatrys problemau Syria.

‘Peryglu’r berthynas’

Yn ôl Donald Trump, mae plaid y Democratiaid yn peryglu’r berthynas rhwng America a Rwsia wrth ddal i gyhuddo Vladimir Putin o ymyrryd yn yr etholiad.

Dywed fod yr ymchwiliad i hacio gan y Rwsiaid yn codi “rhwystr ffug” a all roi bywydau mewn perygl.

“Mae cael perthynas dda â Rwsia’n beth gwych, gwych iawn,” meddai. “Ac fe fydd pobl yn marw oherwydd cyhuddiadau ffug y Democratiaid.”

Mae awgrym Donald Trump fod yn well ganddo gredu Vladimir Putin na gwasanaethau cudd ei wlad ei hun yn sicr o ailgynnau’r ffrae ynghylch ymyrraeth Rwsia yn yr etholiad.