Mae un o enillwyr gwobr heddwch Nobel wedi galw ar arweinwyr y byd i ymwrthod â’r syniad o ‘ryfeloedd cyfiawn’.

Roedd Mairead Maguire, gyda’i ffrind Betty Williams, wedi ennill y wobr yn 1976 ar sail eu hymgyrch heddwch yn ystod helyntion Gogledd Iwerddon.

“Mae angen cael gwared ar y theori ‘rhyfel cyfiawn’ – darn ffug o foesoldeb,” meddai Mairead Maguire mewn cynhadledd heddwch yn y Fatican, cyn cyfarfod y Pab Ffransis.

“Yn lle hynny, gallwn ddatblygu diwinyddiaeth newydd o heddwch a dulliau di-drais a mynegi ymwrthodiad clir a diamwys o drais. Ni ellir defnyddio crefydd i gyfiawnhau rhyfel na chyhrchoedd arfog.”

Yn yr un gynhadledd, fe wnaeth y Pab Ffransis hefyd alw ar arweinwyr y byd i gefnogi ei weledigaeth o fyd heb arfau niwclear.

Dywedodd nad yw dibyniaeth ar arfau niwclear “yn creu dim ond teimlad ffug o ddiogelwch” ac y byddai unrhyw ddefnydd ohonynt yn drychinebus i’r ddynoliaeth ac i’r amgylchedd.

“Ni all cysylltiadau rhyngwladol ddibynnu ar rym milwrol, bygythiadau ac arddangos pentyrrau o arfau,” meddai.