Mae’n bosib bydd miliynau o bobol yn Yemen yn cael eu heffeithio gan “y newyn gwaethaf ar wyneb y ddaear ers degawdau” – os na fydd gweithredoedd Sawdi Arabia yno yn dod i ben.
Dyna rybudd pennaeth dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Syr Mark Lowcock, wedi iddo annerch Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddoe (dydd Mercher).
Mae Yemen wedi bod mewn stad o wrthryfel ers 2015, a bellach mae porthladdoedd, meysydd awyr a ffyrdd y wlad wedi’u cau gan gynghrair o wledydd dan arweiniad Sawdi Arabia.
Mae Mark Lowcock wedi galw ar y gynghrair i ddod â’r blocâd yma i ben, fel bod sefydliadau dyngarol yn medru cludo bwyd, tanwydd a meddyginiaeth at bobol mewn angen.
Effeithio miliynau
“Bydd newyn yn Yemen [os na weithredwn],” meddai Mark Lowcock. “Ond fydd e’n ddim byd tebyg i’r newyn fuodd yn Ne Sudan yn gynharach eleni, lle cafodd degau o filoedd eu heffeithio.
“Ac ni fydd ddim byd tebyg i’r newyn a laddodd 250,000 o bobol yn Somalia yn 2011. Dyma fydd y newyn gwaethaf ar wyneb y ddaear ers degawdau, gyda miliynau’n cael eu heffeithio.”