Mae gwrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd wedi cilio o’u cadarnle olaf yn Syria, yn ol y corff monitro rhyfel yn y wlad.

Mae Arsyllfa Hawliau Dynol yn dweud i luoedd y llywodraeth a’i chynghreiriaid, yn cynnwys ymladdwyr o Irac, gael mynediad i dref strategol Boukamal, ar y ffin ag Irac, ben bore ddydd Iau – a hynny wedi i ymladdwyr IS adael y lle.

Yn ol cyfryngau’r llywodraeth, fe fu lluoedd Syria yn ymladd rhai o wrthryfelwyr IS yn y dre’ yn hwyr nos Fercher.

Ben bore Iau, fe gyhoeddwyd fod yr holl wrthryfelwyr wedi gadael Boukamal.