Mae disgwyl i arlywyddion yr Unol Daleithiau a Rwsia gyfarfod yn Fietnam yr wythnos hon.

Ddydd Gwener (Tachwedd 10) mi fydd y ddau arweinydd yn rhan o gyfarfod Cydweithio Economaidd Asia/y Môr Tawel, yn Danang, Fietnam.

Gobaith awdurdodau Rwsia yw gweld cyfarfod “o sylwedd” rhwng y ddau arweinydd, ac mae’n bosib bydd perthynas y ddwy wlad, rhyfel Syria ac arfau niwclear Gogledd Corea  ymysg y pynciau trafod.

Yn ddiweddar, mae ymdrechion Mosgow i wella’r berthynas â’r Unol Daleithiau wedi cael ei danseilio gan ymchwiliadau ddylanwad Rwsiaidd ar etholiad arlywyddol 2016.

Mae’r Arlywydd, Vladimir Putin, wedi beio gelynion Donald Trump am rwystro’r ymdrechion yma, ac yn mynnu bod ei wlad o hyd yn awyddus i wella’r berthynas.

“Weithiau rydym yn cytuno ar bethau,” meddai Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov, gan atseinio safbwynt ei arweinydd.

“Ond, yn anffodus mae hyn yn cael ei ddefnyddio i fwydo gemau gwleidyddol mewnol. Gemau sydd â’r nod o beri rhwystr i fywyd a gweithredoedd Arlywydd Trump.”