Mae dirprwy-arlywydd Zimbabwe wedi cyhoeddi ei fod wedi gadael y wlad oherwydd “bygythiadau di-baid” i’w deulu a’i fywyd.

Fe gafodd Emmerson Mnangagwa ei ddiswyddo gan yr arlywydd, Robert Mugabe, yn sgil honiadau ei fod wedi cynllwynio â gwrachod i gipio pŵer.

Fe gafodd yr Is-Arlywydd blaenorol, Joice Mujuru, ei ddiswyddo am yr un rheswm.

Mae’n edrych yn debygol mai gwraig yr arlywydd, Grace Mugabe, fydd yn cymryd yr awenau yn sgil diswyddiad Emmerson Mnangagwa.

Er nad yw Emmerson Mnangagwa wedi datgelu yn lle’n union y mae ar hyn o bryd, mae’n honni ei fod yn ddiogel ac yn mynnu y bydd yn dychwelyd i Zimbabwe rhyw ddydd i arwain y wlad.